Llwybrau

Hafan > Llwybrau

Mwynhewch y cyfan sydd gan Ogledd Cymru i'w gynnig a rhoi cynnig ar rai o'r llwybrau arbennig o amgylch y Llwybr Bwyd Môr. Ewch am dro ar hyd Llwybr Arfordir Cymru a chael hoe a chinio bwyd môr ysgafn, neu beth am seiclo am filltiroedd ar hyd llwybrau Sustrans cyn claddu cinio bwyd môr swmpus! P’un a ydych chi’n frwd dros natur, treftadaeth ddiwylliannol, bwyd neu fod yn yr awyr agored, mae rhywbeth yma at ddant pawb.

Mae’r Llwybr Bwyd Môr i’w weld ar hyd y rhan fwyaf o Lwybr Arfordir Cymru, llwybr troed di-dor sy’n rhedeg ar hyd arfordir gyfan Cymru.

Beth am gynllunio eich ymweliad gan ddefnyddio eu Map Rhyngweithiol 

Ceidwaid y Llwybrau Beicio Cenedlaethol yng Nghymru, elusen sy’n gweithio gydag ac o blaid y gymuned leol.

 

Llwybrau beicio pwynt i bwynt Gwynedd:

Llwybr 82:

  • Bangor i Dregarth
  • Porthmadog i Fachynlleth

Llwybr 8:

 

Llwybr Beicio Pwynt i Bwynt Bangor a Chaernarfon:

Llwybr 5:

 

Y Felinheli i Fangor a Bangor i Gonwy

Bangor i Ogwen 

Bangor i Lon Eifon

Croeso Cymru: Ffordd Cymru

 

BBC: Weatherman Walking – Gogledd Cymru

Dolenni digidol gan un o gyflwynwyr tywydd mwyaf blaenllaw y BBC, Derek Brockway, i'w hoff lwybrau cerdded yng Ngogledd Cymru yn dilyn ei gyfres deledu. Mae rhai o'r cwmnïau bwyd môr i’w gweld ar hyd y llwybrau hyn, gan gynnig y mannau perffaith i gael hoe fach!

 

Taith Pererin Gogledd Cymru

Dros y canrifoedd mae miloedd o bobl wedi mynd ar bererindod i Ynys Enlli. Yn yr Oesoedd Canol, roedd gwneud dwy bererindod i'r ynys yn cael ei ystyried mor heriol â'r bererindod i Rufain. Erbyn heddiw mae llwybr wedi ei fapio sy'n cysylltu'r eglwysi hynafol yr ymwelodd seintiau'r 6ed ganrif â hwy ar y daith i Ynys Enlli. O arfordir gogleddol penrhyn Llŷn, gallwch ddod o hyd i rai o’r Gwerthwyr Bwyd Môr yn y cymunedau arfordirol ar hyd Taith Pererin Gogledd Cymru.

 

Mapiau Rhwydwaith Teithio Llesol Cymru

Active Travel Network Maps

Data Map Wales