Amdanom

Hafan > Amdanom

Y Llwybr Bwyd Môr

Ydych chi wrth yr arfordir ac yn awchu am fwyd môr ffres? Mae’r Llwybr Bwyd Môr wedi’i ddylunio i ddangos i chi ble allwch chi fwynhau bwyd môr tymhorol lleol o Wynedd. Mae bwyd yn ffordd wych i brofi diwylliant a chael blas ar le!

Cynllun llawr gwlad yw’r fenter hon i sicrhau hirhoedledd mewn cymunedau pysgota bychain trwy deithio, adrodd straeon a rhannu gwybodaeth.  

Pysgod a Sgoldion Blasus yn Gwynedd

Y Bwyd Môr

Mae bwyd môr yn rhan hanfodol o gymunedau pysgota arfordirol, ac yn rhywbeth rydym ni’n falch o rannu. Mae’n cyfrannu’n helaeth at yr economi leol, gyda llawer o’r ddalfa leol yn cael ei hallforio i Ewrop ac Asia, yn arbennig cimwch, cranc, cregyn gleision (mussels) a chregyn moch (whelk).

Mae twristiaeth hefyd yn chwarae rhan hanfodol yn economi Gwynedd, a busnesau lletygarwch angen cyflenwad cyson o gynnyrch ar gyfer eu bwydlenni. Mae cyrchu bwyd môr o’r tu allan i Wynedd yn hanfodol bwysig i’r busnesau lleol hyn, ac i bysgodfeydd a dyframaeth llai y DU ac Iwerddon yn ehangach. 

Gan fod y bwyd môr sydd ar gael yn lleol yn gallu amrywio drwy’r tymhorau, ein nod yw rhoi gwybod i chi lle gallwch chi roi cynnig ar y gorau o Wynedd. Mae’r lleoedd hyn yn angerddol dros weini cynnyrch sy’n cael ei ddal yn lleol, pan fo’n bosibl, boed hynny ar y brif fwydlen neu fel pryd arbennig.

Y Bobl

Mae gan Wynedd gymuned arfordirol fyrlymus, sy’n gyfuniad o unigolion a theuluoedd sy’n gweithio gyda bwyd môr mewn un ffordd neu’r llall. O’r pysgotwyr sy’n treulio oriau maith ar y môr, boed law neu hindda, i dalentau coginio'r rheiny sy’n rhan o’r Llwybr Bwyd Môr, mae gan bob un gyfraniad unigryw i’w wneud a straeon cyfareddol i’w hadrodd! Dewch i gwrdd â rhai o’r bobl arbennig hyn yn y fideos isod.

Show Toolbar
  • Show Caption
  • Hide Thumbmails
  • Yr Pobl
  • Show Categories
  • Play Slide Show
  • Display in Full Screen
  • Hide Toolbar
Cwpwl yn sefyll o flaen siop chips
 
 
  • Cwpwl yn sefyll o flaen siop chips
  • Pysgotwr yn dal cimwch
  • Perchennog Sheeps a Leeks yn sefyll y tu allan i'r bwytai yng Nghaernarfon
  • perchennog baeb borth sefyll oflaen bwydlen
  • brett yn eistedd oflaen y lle tan
  • perchennog dylans yn eistedd ar sofa glas

Môr Ni Gwynedd

Mae pysgodfeydd cregyn, dyframaeth, a’r diwydiant bwyd môr ehangach yn bwysig i economi Gwynedd a chynaliadwyedd cymunedau arfordirol. Nod prosiect Môr Ni Gwynedd yw hyrwyddo a gwella'r sector trwy dwf glas cynaliadwy. Yn 2023 dyfarnwyd cyllid i Ysgol

Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Gwynedd i gynnal prosiect sy’n cefnogi’r diwydiant lleol. Datblygwyd y Llwybr Bwyd Môr mewn ymateb i arolwg a gynhaliwyd ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd môr i nodi cyfleoedd a rhwystrau i dwf yn y sector.

Rhagor o wybodaeth am y prosiect