Llwybr Bwyd Môr
Hafan > Llwybr Bwyd Môr
Mae’r Llwybr Bwyd Môr wedi ei ddylunio er mwyn dangos i chi ble y gallwch fwyta bwyd môr tymhorol sydd wedi ei ddal yn lleol yma yng Ngwynedd. Mae gan yr ardal hon hanes o bysgota a dyframaethu pysgod cregyn, a pha ffordd well sydd o brofi diwylliant a chael blas o ardal nag wrth fwyta!
Nid yw bwyd môr lleol ar gael drwy’r amser, mae’n dibynnu ar y tywydd, tymheredd y môr a niferoedd tymhorol. Efallai na fydd bwyd môr ar fwydlenni’r bwytai sydd ar y llwybr bob tro, ond maent yn ymdrechu i’w weini pan mae’n bosib.
Dewisiwch ardal o'r map isod.