Croeso i Lwybr Bwyd Môr Gwynedd!
Sir sy’n swatio lle mae’r mynyddoedd yn cwrdd â’r môr – mae Gwynedd yn enwog am ei harddwch eithriadol a’i harfordir ysblennydd. Ym mhob cwr ohoni gallwch ddod o hyd i leoedd gwych sy'n gweini bwyd môr o’r ansawdd uchaf o Ogledd Cymru, a hynny ym mhob tymor.
Mae gan Wynedd hanes cyfoethog o bysgota a dyframaeth pysgod cregyn, a phleser yw rhannu hynny gyda chi. Dewch i ymgolli yn harddwch naturiol a diwylliant bywiog yr arfordir, gan wledda ar hyd y daith ar y bwyd môr lleol bendigedig.
Mae’r bwyd môr sydd ar gael yn lleol yn dibynnu ar y tywydd, tymheredd y môr a’r tymhorau. Mae’n bosib na fydd bob amser ar fwydlen y gwerthwyr sydd ar hyd y llwybr bwyd môr, ond byddant bob tro'n ymdrechu i'w weini pan fydd modd.
Gadewch i ni gyflwyno i chi rhai o’r bobl a’r lleoedd sy’n siapio’r gymuned bwyd môr, gan ddefnyddio llwybrau i’ch tywys ar daith.








