Rhywogaethau
Hafan > Rhywogaethau
Mae bwyd môr lleol yn dymhorol o ran ei natur, gyda ffactorau fel y tywydd, tymheredd y dŵr a nifer y rhywogaethau yn effeithio arno. Trwy gydol y flwyddyn, bydd y rhywogaethau lleol sydd ar gael yn amrywio. Isod mae canllaw ar ba rywogaethau rydych chi'n debygol o ddod ar eu traws a pha adeg o'r flwyddyn maen nhw'n debygol o gael eu dal (i ddod).
Siaradwch â'ch gwerthwr pysgod lleol i ddarganfod mwy.
Allwedd
Cimychiaid Ewropeaidd Homarus gammarus
Crancod Cancer pagurus
Cranc heglog Maja squinado
Corgimychiaid Cyffredin Palaemon serratus
Mecryll yr Iwerydd Scomber scomburus
Draenogiaid Môr Ewropeaidd Dicentrarchus tabrax
Cregyn Gleision Mytilus edulis
Wystrys y Môr Tawel Crassostrea gigas
Cregyn y Brenin Pecten Maximus
Cregyn Moch Cyffredin Buccinum undatum
Cimychiaid Ewropeaidd
Mae hanes hir o bysgota cimychiaid, Homarus gammarus, yng ngogledd Cymru – sy’n cyfrannu’n sylweddol at yr economi leol. Mae’n un o’r rhywogaethau pwysicaf a ddelir yng Ngwynedd, gan gefnogi marchnad allforio fawr i Ewrop ac Asia. Mae’r cimychiaid sy’n cael eu dal mewn cewyll yng ngogledd Cymru yn enwedig yn adnabyddus am fod ymhlith y bwydydd môr gorau ym Mhrydain, oherwydd y dyfroedd clir, maethlon.
Cregyn Moch Cyffredin
Mae’r malwod môr mawr bwytadwy hyn i’w cael yn y dyfroedd oer o amgylch Gogledd Môr yr Iwerydd. Er bod cregyn moch, Buccinum undatum, yn fwyd rhad cyffredin yn y Deyrnas Unedig yn draddodiadol, nid oes llawer o alw amdanynt yma y dyddiau hyn, felly yn hytrach maent yn cael eu gwerthu’n bennaf i Dde Korea. Mae’r farchnad allforio hon yn rhan werthfawr iawn o’r economi leol.
Mecryll yr Iwerydd
Pysgod glas/arian yw Mecryll, Scomber scombrus, sy’n nofio’n gyflym ac yn byw mewn heigiau enfawr. Yn ystod misoedd cynhesach, maent i’w gweld yn nes at y draethlin ac yn nes at wyneb y môr, a byddant yn cael eu dal yn amlach yn ystod y cyfnodau hyn. Maent yn ddewis bwyd môr cynaliadwy, ac maent hefyd yn ffynhonnell fwyd bwysig i ysglyfaethwyr morol mwy.
Crancod
Crancod brown, Cancer pagurus, yw’r rhywogaeth fwyaf masnachol bwysig o granc sydd yma – gyda’r rhan fwyaf yn cael eu hallforio i Ewrop ac Asia. Cânt eu dal yn yr un cewyll â chimychiaid, a gellir pysgota amdanynt drwy gydol y flwyddyn, er bod llawer llai o gychod yn eu dal dros y gaeaf oherwydd yr amodau tywydd gwael ar gyfer pysgota.
Corgimychiaid Cyffredin
Math o ferdysyn (shrimp) yw corgimychiaid cyffredin, Palaemon serratus, ac maent i’w gweld mewn amrywiaeth o gynefinoedd ar hyd a lled arfordiroedd y DU ac Iwerddon, gan gynnwys Gwynedd. Er eu bod yn cael eu pysgota’n bennaf rhwng mis Awst a mis Tachwedd, nid oes modd rhagweld presenoldeb corgimychiaid cyffredin yn lleol, sy’n golygu bod eu hargaeledd yn amrywio’n fawr.
Cregyn y Brenin a Chregyn y Frenhines
Mae cregyn y brenin, Pecten maximus, a chregyn y frenhines, Aequipecten opercularis, yn fwyd môr gwyllt uchel eu gwerth, ac mae Bae Ceredigion yn cael ei adnabod fel yr ardal fwyaf cynhyrchiol o ran y pysgod cregyn hyn yng Nghymru. Mae gan y bysgodfa hon dymhorau lle mae ar agor ac ar gau, felly maen nhw’n cael eu dal yn bennaf dros y gaeaf a’r gwanwyn.
Cregyn Gleision ac Wystrys
Mae Afon Menai yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ac mae ganddi hanes cyfoethog o ddyframaethu pysgod cregyn. Yn wir, mae hanner y cregyn gleision a gynhyrchir yn y DU yn dod o’r Fenai. Gellir priodoli ansawdd uchel y pysgod cregyn i gerrynt cryf y llanw a’r phaeocystis, yr algâu sy’n blodeuo’n lleol ac sy’n rhoi blas unigryw i’r pysgod cregyn. Cadwch lygad am gregyn gleision ac wystrys y Fenai ar fwydlenni!
Fel mae’r enw’n ei awgrymu, mae’r cregyn gleision a geir yma, Mytilus edulis, yn las ac maent yn cael eu tyfu ar wely rhynglanwol, sy’n golygu eu bod weithiau o dan y dŵr ac weithiau’n dod i gysylltiad a’r aer. Maent yn tyfu mewn gwelyau trwchus, bron fel riff, sy’n creu cynefinoedd pwysig i lawer o rywogaethau ac adar morol eraill.
Mae wystrys y Môr Tawel, Crassostrea gigas, hefyd yn cael eu tyfu’n rhynglanwol – mewn bagiau ar raciau metel a elwir yn drestlau, felly maen nhw wedi’u codi oddi ar wely’r môr yn hytrach na bod arno’n uniongyrchol. Gallant gymryd 2-3 blynedd ar gyfartaledd i gyrraedd maint y farchnad.
Draenogiaid Môr Ewropeaidd
Pysgod asgellog ariannaidd sy’n byw yn y môr yw Draenogiaid Môr, Dicentrarchus labrax, ac maent i’w cael o gwmpas Gwynedd i gyd, mewn dyfroedd cymharol fas ger yr arfordir. Mae Draenogiaid Môr yn bysgod gwerthfawr sydd ar gael yn fasnachol ac yn gyfnewidiol drwy gydol y flwyddyn, ond y cyfnod brig ar gyfer eu dal yn aml yw yn ystod yr hydref a’r gaeaf.
Rhywogaethau eraill a gaiff eu dal yn lleol:
Caiff y rhywogaethau canlynol eu dal yn lleol weithiau, felly mae’n bosib y byddwch yn canfod rhai o’r rhywogaethau hyn ar hyd y Llwybr Bwyd Môr hefyd.
- Maelgi (Monkfish), Lophius Piscatorius
- Hyrddyn (Mullet), teulu Mugilidae
- Lleden goch (Plaice), Pleuronectes platessa
- Lleden (Flounder), Platichthys flesus
- Lleden chwithig (Common sole), Solea solea
- Morlas Gogledd Iwerydd (North Atlantic Pollock), Pollachius pollachius
- Chwitlyn glas (Saithe/Coley/Coalfish), Pollachius virens
- Hadog (Haddock), Melanogrammus aeglefinus
- Pennog yr Iwerydd (Atlantic Herring), Clupea harengus
- Lleden dywod (Dab), Limanda limanda
- Gwyniad y môr (Whiting), Merlangius merlangus
- Torbwt (Turbot), Scophthalmus maximus
- Cimwch coch (Crawfish/Spiny lobster), Palinurus spp.
- Cranc llygatgoch (Velvet crab), Necora puber
- Queen Scallop, Aequipecten opercularis
- Cocos (Cockles), Cerastoderma edule
Planhigion Bwyd Môr:
- Llyrlys (Marsh Samphire), Salicornia europaea
- Rock Samphire, Crithmum maritimum